Mondadori Store

Trova Mondadori Store

Benvenuto
Accedi o registrati

lista preferiti

Per utilizzare la funzione prodotti desiderati devi accedere o registrarti

Vai al carrello
 prodotti nel carrello

Totale  articoli

0,00 € IVA Inclusa

Cawn ei hanes o'i blentyndod yn Bermo i'r cyfnod cythryblus pan oedd yn fyfyriwr israddedig yn Aberystwyth, o ysgoloriaeth a'i galluogodd i fynd i Berkeley yn San Francisco ar yr adeg pan oedd AIDS yn lledaenu ar ras, cyn dychwelyd i Lerpwl ac i ogledd Cymru i weithio fel caplan ac yna ym maes gwaith cymdeithasol ac iechyd rhyw. Mae'n daith a'i harweiniodd i fod yn awdur a ddefnyddiodd ei brofiadau i greu ffuglen a enillodd wobrau, ac a'i hysgogodd i ddod yn ymgyrchydd, anfoddog braidd, dros hawliau LGBT yng Nghymru. Cawn glywed am yr antur o gadw Gwely a Brecwast yn Bermo, gyda'i r, academydd Almaenig, eu priodas ar ôl partneriaeth hir, a'i gyfnod fel Maer Bermo. Ddyddiau'n unig ar ôl y Refferendwm ar Ewrop penderfynodd y ddau werthu'r busnes a symud i'r Almaen. Mae taith John Sam yn parhau. Ar ôl mwy na deng mlynedd ar hugain o fod yn gweinidogaethu fel caplan, yn gweithio ym myd addysg a gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mae John Sam Jones bellach wedi lled-ymddeol ac yn byw gyda'i r a'u dau gi defaid Cymreig mewn pentref bach yn yr Almaen, dafliad carreg o'r ffin â'r Iseldiroedd. Sylweddolodd John ei fod yn hoyw pan oedd yn ei arddegau yn y 1970au a dod i ddeall yn fuan y byddai'n byw ei fywyd ar y ffiniau y ffin rhwng gwir a chelwydd, y ffin rhwng cael ei wrthod a chael ei watwar, y ffin rhwng amau'i hun a'i daith i gael ei dderbyn. Yn y diwedd dewisodd gerdded llwybr lle nad oedd ei onestrwydd a'i ddiffuantrwydd bob tro'n cael ei werthfawrogi gan gymdeithas a oedd yn aml yn chwyrn o homophobig. Yn 2001 ef oedd cyd-gadeirydd cyntaf LGB Forum Cymru (a ddaeth yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru), corff a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion LGB.

Dettagli down

Generi Romanzi e Letterature » Diari, Lettere, Memorie , Storia e Biografie » Biografie Diari e Memorie » Memorie

Editore Parthian Books

Formato Ebook con Adobe DRM

Pubblicato 15/05/2021

Lingua Gallese

EAN-13 9781913640804

0 recensioni dei lettori  media voto 0  su  5

Scrivi una recensione per "Y Daith ydi Adra"

Y Daith ydi Adra
 

Accedi o Registrati  per aggiungere una recensione

usa questo box per dare una valutazione all'articolo: leggi le linee guida
torna su Torna in cima